Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023
Amser:
09.01 -
12.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13200
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS Hefin David AS Jane Dodds AS Tom Giffard AS |
Tystion: |
Daljit Kaur Morris, National Youth Advocacy Service Helen Perry, National Youth Advocacy Service (NYAS) Cymru Mark Carter, Barnardo’s Cyrmu De Dwyrain Cymru Amy Bainton, Barnado's Cymru Syr Andrew Mcfarlane, Family Court Judge Yr Anrh. Mr Justice Francis, Family Court Judge Vikki Morris, Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder Peter Spinner, Cynllun Peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol Melissa Meindl, CASCADE, Prifysgol Caerdydd David Westlake, CASCADE, Prifysgol Caerdydd Orla MacRae, Llywodraeth y DU Kwamina Korsah, Llywodraeth y DU Gabrielle Melvin, Llywodraeth y DU Becky Woods, Llywodraeth y DU |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhys Morgan (Clerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Lleu Williams (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS i’r cyfarfod ar gyfer eitemau 1 i 6 a Tom Giffard AS a Hefin David ar gyfer eitem 8.
2 Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 6
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brosiect Undod NYAS Cymru a Gwasanaeth Babanod a Fi Barnardo's.
2.2 Cytunodd Barnardo's Cymru i ddarparu enghreifftiau o arfer da wrth gynhyrchu asesiadau rhianta o safon mewn modd amserol.
3 Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 7
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Syr Andrew Mcfarlane a'r Anrhydeddus Mr Ustus Francis.
3.2 Cytunodd y Gwir Anrhydeddus Syr Andrew Mcfarlane i ddarparu enghreifftiau o arfer da awdurdodau lleol yn Lloegr sy'n defnyddio'r gwaith cyn y caiff achosion eu cynnal i ddargyfeirio achosion rhag cyrraedd y llys teulu.
4 Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 8
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth y Cynllun Peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC).
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 15 Chwefror
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
8 Y Bil Diogelwch Ar-lein - sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth y DU
8.1 Cafodd y Pwyllgor friff ar Fil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU.